P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru - Gohebiaeth gan y deisebydd, 03 Mawrth 2025
Noswaith dda,
Diolch am f'atgoffa i
Dyma fy sylwadau, sydd yn dod gan aelodau o bwyllgor Traws Linc Cymru.
Dyma adroddiad strategol a greewyd gan Traws Linc Cymru sy'n gosod yr achos i ailagor llinell dren Afon-wen i Fangor / Aberystwyth i Gaerfyrddin:
Mae Traws Linc Cymru'n gofyn am astudiaeth ddichonoldeb newydd gan fod yr adroddiad strategol wedi dod i'r casgliad bod llawer o ddiffygion yn adroddiad Mott Macdonald. O ran Caerfyrddin i Aberystwyth.
Hefyd rydym yn dymuno cael astudiaeth ddichonoldeb lawn a chynhwysfawr gael ei chynnal ar gyfer Aberystwyth-Caerfyrddin yn benodol, yn seiliedig ar gasgliadau yr adroddiad strategol.
Rydym [fel Traws Linc Cymru] yn dal i sefyll wrth ei sylwadau a’i gasgliadau o blaid rheilffyrdd trwm er gwaethaf yr astudiaeth ddichonoldeb ddiweddar, ac eisiau gweld astudiaeth pellach o hyn ar linell Afon-wen i Fangor.
Diolch yn fawr,